Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 4
Hydref 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r cyhoeddiad y bydd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn colli contractau gyda Jaguar Land Rover ar ôl 2020?
(5 munud)
(30 munud)
(60 munud)
NDM6509
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
David Melding (Canol De Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr angen i liniaru cynhesu byd eang a chefnogi cytundeb Paris o'r 21ain gynhadledd o'r partïon ('Cytundeb Paris') drwy dorri allyriadau carbon a nodi bod hyn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
2. Yn nodi bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy wedi'i hymgorffori yng ngwaith y Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil pellach i ddichonoldeb cynllun peilot cyfrifon carbon personol yng Nghymru.
'Paris Accord of the 21st Conference of the Parties ('Paris Agreement')' (Saesneg yn unig)
'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015'
'Deddf Llywodraeth Cymru 1998' (Saesneg yn unig)
(60 munud)
NDM6518 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ei 'Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2017.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 11 Gorffennaf 2017.
(60 munud)
NDM6520 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn peri risgiau i ddiogelwch cleifion a'r gallu i gyflenwi gwasanaethau'n ddiogel.
2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun gweithlu effeithiol a chynaliadwy ar gyfer GIG Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi'r effaith y gall prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ei chael ar ddarparu gwasanaethau.
2. Yn croesawu ymrwymiad holl staff GIG Cymru i ddarparu gofal iechyd tosturiol o safon uchel.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â sectorau perthnasol i sicrhau bod cynllunio'r gweithlu yn digwydd mewn modd cydlynol.
(30 munud)
NDM6519 Lee Waters (Llanelli)
M4 sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Hydref 2017